Skip to content ↓

Presenoldeb / Attendance

Annwyl Rieni/Gofalwyr,

Rydym yn credu’n angerddol bod pob diwrnod ysgol yn bwysig i addysg plentyn. Cefnogir hyn gan ddigonedd o waith ymchwil sy’n dangos pa mor hanfodol yw presenoldeb rheolaidd i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu potensial llawn yn ein system addysg ac yn datblygu i fod yn oedolion hyderus a chyflawn sydd wedi’u paratoi ar gyfer bywyd.

Beth yw presenoldeb da?
Ceir 190 o ddiwrnodau ysgol y flwyddyn. I sicrhau bod plentyn yn gwireddu ei botensial yn llawn, dylai fod yn yr ysgol o leiaf 95% o’r amser hwn (180 diwrnod). Os bydd plentyn yn cael ei dynnu o’r ysgol ar gyfer gwyliau o bythefnos yn ystod tymor yr ysgol, bydd unrhyw absenoldebau eraill e.e. trwy salwch yn golygu bod y plentyn hwnnw yn is na’r trothwy o 95% ar unwaith.

A gaf i dynnu fy mhlentyn allan o’r ysgol ar gyfer gwyliau yn ystod tymor yr ysgol?
Mae gan benaethiaid y disgresiwn i gymeradwyo hyd at 10 diwrnod ysgol yn ystod blwyddyn academaidd ar gyfer gwyliau teuluol. Caiff hyn ei wneud ar sail achosion unigol a bydd y penderfyniad i gymeradwyo wedi’i seilio ar nifer o ffactorau, gan gynnwys presenoldeb y plentyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhaid cyflwyno pob cais am absenoldeb yn ystod tymor yr ysgol yn ysgrifenedig i’r Pennaeth.(defnyddiwch y ffurflen)

Beth wyf i’n ei wneud os bydd fy mhlentyn yn absennol o’r ysgol?
Mae gan rieni gyfrifoldeb i hysbysu’r ysgol os bydd eu plentyn yn absennol a rhoi rheswm dilys dros yr absenoldeb. Rydym yn annog rhieni naill ai i ffonio’r ysgol neu gysylltu â ni drwy e-bost cyn gynted â phosibl AR DDIWRNOD CYNTAF YR ABSENOLDEB. Yn yr un modd â llawer o ysgolion eraill, rydym hefyd yn anfon negeseuon i atgoffa rhieni i gysylltu â ni os bydd eu plentyn yn absennol.

Beth am brydlondeb (cyrraedd ar amser)?
Mae’r gyfraith yn nodi ei bod yn ofynnol o dan y gyfraith i rieni sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon. Ymdrinnir â hwyrni cyson fwy neu lai yn yr un ffordd â phresenoldeb afreolaidd. Gall hwyrni cyson fod yr un mor niweidiol i addysg plentyn â cholli’r ysgol. Rydym yn annog pob plentyn i fod yn yr ysgol cyn 9 y bore ( 8:50 yn Cwrt Henri). Bydd plant sy’n cyrraedd yr ysgol ar ôl cau’r gofrestr ( dros 30 munud yn hwyr) yn cael eu nodi fel absenoldeb anawdurdodedig.

Sut ydym ni’n ymdrin ag absenoldeb cyson?
Rydym yn hoffi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am bresenoldeb eu plentyn ac felly rydym yn darparu adroddiadau bob tymor ar gyfer pob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i fyny. Rydym hefyd yn cysylltu â rhieni plant y mae eu presenoldeb yn destun pryder. Diben y cyfarfodydd/sgyrsiau hyn yw i gynnig cefnogaeth i chi, nodi’r rhesymau dros absenoldeb cyson a nodi unrhyw gymorth y gall yr ysgol neu asiantaethau allanol ei roi i sicrhau bod presenoldeb y plentyn yn gwella. Ceir adegau pan fydd pryderon sylweddol a pharhaus ynghylch presenoldeb plentyn sy’n ei gwneud yn angenrheidiol i’r ysgol gyfeirio’r mater i’r Adolygiad Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion.

Beth allaf i ei wneud fel rhiant/gofalwr?
Fel rhieni, rydym ni i gyd eisiau’r gorau posibl i’n plant ac mae addysg dda yn allweddol i hyn.
Rydym yn falch o’r hyn yr ydym yn ei wneud ar gyfer ein disgyblion yma o fewn Ffederasiwn Ysgolion Cwrt Henri, Ffairfach a Talyllychau. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau addysgol sydd wedi’u teilwra i anghenion datblygiadol plentyn ac sy’n cyfrannu at eu diddordebau, eu brwdfrydedd a’u galluoedd a’u doniau penodol. Er mwyn i hyn weithio, mae angen iddynt fod gyda ni am gymaint o’r daith â phosibl felly rydym yn annog eich bod chi, fel rhieni:
• yn sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon bob dydd;
• yn sicrhau bod eich plentyn yn colli’r ysgol am resymau na ellir eu hosgoi neu y gellir eu cyfiawnhau yn unig, fel salwch neu ddiwrnodau o ddefod grefyddol;
• bob amser yn hysbysu’r ysgol cyn gynted â phosibl – ar fore cyntaf unrhyw absenoldeb yn ddelfrydol;
• yn ceisio osgoi trefnu gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol; ac
• yn siarad â’r ysgol os byddwch yn pryderu y gallai eich plentyn fod yn amharod i fynd i’r ysgol.
Rwy’n gobeithio y gwnewch chi ein cefnogi yn ein hymdrechion i sicrhau bod eich plentyn yn cael y cychwyn gorau posibl ar ei daith ddysgu gydol oes.

Er mwyn cydweithio a chefnogi chi i sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i bresenoldeb eich plentyn fe fyddwn yn eich hysbysu o ganran presenoldeb eich plentyn ar ddechrau Tymor y Gwanwyn, Tymor yr Haf ac o fewn adroddiad blynyddol eich plentyn.

Diolch am eich cefnogaeth

Dear Parents/Carers,

We believe passionately that every school day matters in a child’s education. This is backed up by plenty of research to show how crucial regular attendance is in ensuring children reach their full potential in our education system and develop into confident, well-rounded adults who are equipped for life.

What is good attendance?
There are 190 school days each year. To ensure a child fully achieves their potential, they should be in school for at least 95% of this time (180 days). If a child is taken out of school for a 2 week holiday in term time then any further absences e.g. through illness will immediately put that child below the 95% threshold.

Can I take my child out of school for a holiday in term time?
Headteachers have the discretion  to approve up to 10 school days in the course of an academic year for family holidays. This is done on a case by case basis and the decision to approve will be based on a number of factors, including  the child’s attendance over the last year. All requests for term-time absence must be submitted in writing to the Headteacher. ( please complete the holiday form)

What do I do if my child is absent from school?
Parents have a responsibility to inform the school if their child is absent and provide a valid reason for the absence. We encourage parents either to ring school or contact us by email as early as possible ON THE FIRST DAY OF ABSENCE. In line with many other schools, we also  send reminder messages to remind parents to contact us if their child is absent.

What about lateness(punctuality)?
The law states that parents are legally required to ensure their children attend school regularly and on time. Persistent lateness is dealt with in much the same way as irregular attendance. Persistent lateness can be every bit as harmful to a child’s education as missing school. We encourage all children to be in school before 9a.m. ( 8:50am in Cwrt Henri) Children who arrive in school after the close of register (more than 30 minutes late) will be marked as an unauthorised absence.

How do we deal with persistent absence?
We like to keep parents informed about their child’s attendance, so we provide termly reports for every child from Reception Class upwards. We also make contact with parents of children whose attendance is a cause for concern. The purpose of these meetings/conversations is to support you as parents, identify the reasons for persistent absence and to identify any support the school or outside agencies can give to ensure the child’s attendance improves. There are occasions where there are  significant and ongoing concerns about a child’s attendance, which necessitate the school referring the matter to the School Safeguarding and Attendance Team.

What can I do as a parent?
As parents, we all want the very best for our children and key to this is a good education.
We are proud of what we do for our pupils here within the Federation of Cwrt Henri, Ffairfach and Talley schools. We endeavour to provide educational experiences tailored to a child’s developmental needs and which feed their interests, enthusiasm and specific abilities and talents. For this to work, they need to be with us for as much of the journey as possible so we urge that, as parents you:
• ensure that your child arrives at school on time each day;
• ensure that your child only misses school for reasons which are unavoidable or
justified, such as illness or days of religious observance;
• always notify the school as soon as possible - preferably on the first morning of any
absence;
• try to avoid booking family holidays during term-time; and
• talk to the school if you are concerned that your child may be reluctant to go to school.
I hope you will support us in our attempts to ensure that your child has the very best start on their lifelong learning journey.

In order to work collaboratively and support ensuring that your child’s attendance is a priority we will inform you of their attendance level at the beginning of the Spring and Summer term and within their end of year report.

Thank you for your support